COFIO...
Gallwch roi cynifer o fagiau glas ag a fynnoch allan i'w casglu. Mae gofyn i'r holl ddeunyddiau i'w hailgylchu gael eu cadw'n sych ac yn lân. Cofiwch eu golchi a'u cywasgu.
PEIDIWCH BYTH â rhoi GWYDR yn eich bagiau glas gan fod hynny'n beryglus i'n gweithwyr. Yn ogystal, os oes gwydr wedi ei dorri yn cael ei roi mewn bag glas, mae hynny'n golygu na all cynnwys y bag gael ei anfon i'w ailgylchu.
Ewch â'ch poteli a'ch jariau gwydr gwag i'ch canolfan ailgylchu neu safle derbyn gwastraff. Os nad oes modd ichi wneud hyn, lapiwch y gwydr yn ofalus a'i roi yn eich bagiau du.
Bydd sticer yn cael ei roi ar bob bag sy'n cynnwys y math anghywir o eitemau ac ni fyddant yn cael eu casglu.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Galw Sir Gâr (01267 234567).