Casgliad Gwastraff Swmpus
Gwastraff swmpus yw gwastraff rydych chi'n methu â gosod mewn bin neu mewn bag. Mae enghreifftiau o wastraff swmpus yn cynnwys gwelyau, carpedi, oergelloedd, rhewgelloedd a chypyrddau dillad.
Os oes angen gwaredu'r math hwn o wastraff arnoch, yna bydd y cyngor yn casglu hyd at dair eitem am ffi fach o £12 cyn casglu, yn dibynnu ar y math o eitem.
Mae'n rhaid gosod pob eitem swmpus allan i'w casglu y noson gynt yn eich man casglu arferol. Os ydych yn fethedig, dywedwch wrth un o staff Galw Sir Gâr ac efallai y gallwn drefnu casgliad o'ch cartref.
Nodwch, nad ydym yn casglu'r mathau canlynol o wastraff:
- Rwbel / defnyddiau adeiladu a phridd a cherrig
- Gwastraff Peryglus (e.e. asbestos, batris ceir, paent, olew gwastraff ac ati)
- Ffyrnau tebyg i Rayburn
- Boeleri dŵr (mawr)
- Unedau cegin ac arwynebau gwaith
- Estyll a darnau o bren
- Gwastraff masnach
- Haearn bwrw
Mae'n bosibl y byddai'n gyflymach petai chi mynd â'r eitemau i'ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref agosaf, yn rhad ac am ddim, yn:
Nant-y-caws, Caerfyrddin
Trostre, Llanelli
Wernddu, Rhydaman
Llangadog.
Hendy-gwyn
Fel rhan o'n strategaeth ARBED, AILDDEFNYDDIO ac AILGYLCHU, rydym yn gofyn i breswylwyr feddwl cyn taflu.
Rhybudd: Cofiwch, mae tipio anghyfreithlon yn drosedd a gall arwain at ddirwy o hyd at £50,000.
Os ydych yn dymuno gwneud cais am gasglu gwastraff swmpus, a fyddech cystal â chysylltu â Galw Sir Gâr drwy ffonio: 01267 234567, neu e-bostio: galw@sirgar.gov.uk