Ymhle y gallaf gael bin? 

Bin compostio

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwerthu bin ‘Soil Saver' 330 o litrau sydd â drws bach. Mesuriadau'r bin yw: Uchder 100cm - Diamedr 80cm.  Cost y bin yw £10 gan gynnwys cludiant, ac i brynu un cysylltwch â Galw Sir Gâr drwy ffonio 01267 234567 (gofalwch fod eich carden gredyd/debyd wrth law gennych pan fyddwch chi'n ffonio). Neu gallwch dalu drwy fynd i un o'n desgiau talu neu drwy anfon siec yn daladwy i Gyngor Sir Caerfyrddin i'r cyfeiriad canlynol: Cyngor Sir Caerfyrddin, Galw Sir Gâr, Swyddfeydd y Cyngor, Heol Cilgant, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6HW.

Gall gymryd hyd at 4 wythnos i ddarparu'r bin ar ôl derbyn y taliad.

Nid oes yn rhaid ichi ddefnyddio bin o gwbl; bydd tomen agored yn gweithio, ond mae'n bosibl y bydd yn arafach ac efallai y bydd angen mwy o wastraff arnoch i'r domen agored weithio'n effeithiol. Gallech hefyd wneud cynhwysydd drwy ddefnyddio hen bren e.e. gallech ddefnyddio paletau nad oes eu hangen ar neb mwyach i wneud blwch mawr - gadewch y gwaelod yn agored a gallwch roi hen garped neu ddarn o bolythen dros y deunyddiau gwastraff.

Fodd bynnag mae llawer o bobl yn dewis defnyddio bin plastig, ac mae dewis helaeth o finiau ar gael yn hwylus. Mae cynlluniau'r biniau yn eithaf tebyg i'w gilydd; mae gan rai ohonynt ddrws bach er mwyn gallu tynnu'r compost gorffenedig o waelod y bin, ond gyda mathau eraill mae'n rhaid ichi godi'r bin oddi ar y compost er mwyn gallu cael y compost. Mae modd prynu biniau troi sy'n cael eu dal gan ffrâm, ac fel yr awgryma'r enw mae modd troi'r bin i awyru'r cymysgedd. Gan fod modd awyru'r cymysgedd mae'r math hwn o fin yn gweithio'n llawer cyflymach, ond mae hefyd yn llawer drutach.