Beth y dylwn ei wneud â gwastraff gardd? 

Compostio gartref yw un o'r ffyrdd mwyaf cost effeithiol a mwyaf cydnaws â'r amgylchedd o ymdrin â gwastraff gardd. Gall oddeutu traean o wastraff gael ei gompostio'n hawdd gartref – gan gynnwys torion gardd, cardbord, bagiau te a phapur. Drwy gompostio gwastraff yn lle rhoi popeth yn y bin sbwriel, gallwn leihau yn fawr gyfanswm y gwastraff a anfonwn i gladdfeydd sbwriel.

Caiff y gwastraff bwyd a gardd ei gludo i gyfleuster compostio canolog yn Nant-y-caws, Caerfyrddin, lle mae'n cael ei droi'n gompost neu'n gyflyrydd pridd i'w ddefnyddio eto.

Gellir prynu biniau compost gan y Cyngor am £10, sy'n cynnwys cost cludiant. Ffoniwch Galw Sir Gâr ar y rhif 01267 234567.

Os na allwch gompostio gartref, defnyddiwch y ganolfan agosaf sy'n Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Os nad ydych yn gallu gwneud hyn ychwaith, mae modd i'ch gwastraff gwyrdd gael ei gasglu'n wythnosol drwy ei roi mewn bagiau y gellir eu prynu ymlaen llaw gan y Cyngor Sir (£3.50 am 20). Gallwch brynu'r bagiau hyn wrth ddesgiau arian y Cyngor neu mewn nifer o lefydd yn y gymuned, gan gynnwys:

Gallwch brynu bagiau gwastraff gardd o:
Swyddfa'r Cyngor, Llandeilo Adeiladau'r Cyngor, Heol Crescent, Llandeilo, SA18 6HW
Canolfan Hamdden Trimsaran Heol Llanelli, Trimsaran, SA17 4AA
Cyngor Tref Cydweli Swyddfeydd Cyngor, Hillfield Villas, Cydweli, SA17 4UL
Cyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn Institiwt a Neuadd Goffa, Stryd Parc Y Minos, Porth Tywyn, SA16 0BN
Swyddfa Bost Llanymyddfri 3 Sgwâr y Farchnad, Llanymyddfri, SA20 0AD
Neuadd Pontyberem Neuadd Goffa, Heol Coalbrook, Pontyberem, SA15 5HU
Canolfan Gymunedol Felinfoel Heol Tan Yr Rhodyn, Llanelli, SA15 4LN
Peiriannau Gardd Dyffryn Teifi Drefach, Llandysul, SA44 5UG
Gwasanaethau Cwsmeriaid Rhydaman Neuadd y Dref, Ffordd Iscennen, Ammanford, SA18 3BE
Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin 3 Heol Spilman, Caerfyrddin, SA31 1LE
Gwasanaethau Cwsmeriaid Llanelli Ty Elwyn, Sgwâr Neuadd y Dref, Llanelli, SA15 3AP
Canolfan Groeso Caerfyrddin Heol Awst, Caerfyrddin
Y Ganolfan Ddarganfod Y Ganolfan Ddarganfod, Arfordirol y Mileniwm, Doc y Gogledd, SA15 2LF
Teifi Hall Gifts Sgwâr Emlyn, Castell Newydd Emlyn, SA38 9AN
Neuadd y Tymbl Heol y Neuadd, Tymbl, SA14 6HR
Kingswood Stores Heol yr Orsaf, Sancler, CaerfyrddinSA33 4BG
Premier Stores Pencader SA39 9HA
Siop Yr Albion (Swyddfa'r Post) Pencader
Llwynhendy Stores (Swyddfa'r Post) Llwynhendy Road, Llwynhendy Llanelli


Gellir rhoi'r rhain allan i'w casglu bob wythnos gyda chynnwys eich bin bwyd (y bin gwyrdd).