Pryd fyddwch chi'n casglu'r biniau?
I gael gwybod a yw'n wythnos bagiau du neu fagiau glas
COFIWCH y bydd eich bagiau glas a du yn cael eu casglu am yn ail wythnos ac y bydd eich bin gwyrdd yn cael ei gasglu'n wythnosol. Cyfeiriwch at eich calendr i weld pa wythnosau y caiff y bagiau glas a du eu casglu.
Casglu sbwriel/deunyddiau ailgylchu adeg Gŵyl Banc Calan Mai
Mae mân newidiadau i’r casgliadau sbwriel/ailgylchu yn yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun, 7 Mai:
| Y Casgliadau sy’n Newid |
Y Dyddiadau Casglu newydd |
| Dydd Llun 7fed Mai |
Dydd Mawrth 8fed Mai |
| Dydd Mawrth 9fed Mai |
Dydd Mercher 10fed Mai |
| Dydd Mercher 9fed Mai |
Dydd Iau May 10fed Mai |
| Dydd Iau May 10fed Mai |
Dydd Gwener 11eg Mai |
| Dydd Gwener 11eg Mai |
Dydd Sadwrn 12fed Mai |
Bydd y casgliadau ar ddyddiadau eraill yn cadw at y drefn arferol.
Bydd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Nhrostre (Llanelli), Wern-ddu (Rhydaman), Nant-y-caws (Caerfyrddin), Hendy-gwyn a Llangadog ar agor fel arfer ar Ŵyl y Banc.