Beth y dylwn ei roi yn y bin gwyrdd?
Gellir rhoi gwastraff bwyd, a goginiwyd neu sy’n amrwd, yn eich bin gwyrdd, gan gynnwys:
- Gweddillion bwyd
- Cig a physgod gan gynnwys esgyrn
- Ffrwythau a llysiau, gan gynnwys pilion/crwyn
- Plisg wyau
- Bagiau te a gwaddodion coffi
Fe roddwn gadi brown ichi ei gadw yn y gegin er mwyn rhoi eich gwastraff bwyd ynddo o ddydd i ddydd. Pan fydd yn llawn, gallwch drosglwyddo ei gynnwys i'r bin gwyrdd y gellir ei gadw'r tu allan.
Peidiwch â rhoi eich cadi brown allan i'w gasglu na’i roi yn eich bin gwyrdd.
Ffoniwch Galw Sir Gâr ar y rhif 01267 234567 i roi gwybod inni am unrhyw finiau a ddifrodwyd neu sydd wedi mynd ar goll ac fe gewch finiau eraill yn eu lle.
Preswylwyr sy'n gyfrifol am gadw eu biniau'n lân. Er mwyn helpu I gadw'r biniau yn lân gallwch lapio eich gwastraff bwyd mewn papur newyddion neu bapur cegin a/neu ddefnyddio'r papur i leinio'r biniau.

Neu gallwch brynu bagiau compostadwy. Mae'r bagiau hyn ar gael gan amrywiol siopau ac archfarchnadoedd lleol yn ogystal â nifer o werthwyr ar-lein. Chwiliwch am y logo isod neu defnyddiwch y cyfeirnod hwn EN13432.
PEIDIWCH â rhoi eich gwastraff bwyd mewn bagiau plastig (mae hyn yn cynnwys bagiau bioddiraddadwy) oherwydd byddai unrhyw blasting yn llygru'r llwyth cyfan a byddai'n rhaid anfon y llwyth cyfan i gladdfa sbwriel.
Bydd nodyn yn cael ei roi ar bob bin sy'n cynnwys eitemau anghywir ac ni fydd y biniau hynny'n cael eu casglu.